About Love Food Hate Waste (Cymraeg)
Fe fydd yr app Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff yn eich helpu i leihau eich gwastraff bwyd drwy eich darparu â ryseitiau sydd wedi seilio ar y bwyd sydd gennych dros ben yn eich cegin. Cadwch gofnod o’ch siopa o fewn yr app a defnyddiwch i’ch helpu i leihau y bwyd rydych chi’n ei daflu i ffwrdd, drwy goginio prydiau dyfeisgar. Yn y DU, rydym yn taflu i ffwrdd 7.2 miliwn o dunelli o fwyd a diod o'n cartrefi bob blwyddyn, a gellir bod wedi bwyta'r rhan fwyaf ohono. Gall Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff helpu chi i ddefynddio'r bwyd dros ben a fyddai fel arall yn cael eu taflu i ffwrdd.
Fe allwch arbed £60 y fis drwy daflu llai o fwyd i ffwrdd – gadewch i’r app Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff i’ch helpu ar hyd y ffordd.
Mae’r app Hoffi Bwyd Casáu Gwastraff hefyd yn cynnwys set o gynlluniau soffistigedig i’ch helpu chi wneud y mwyaf o’ch cegin ac i leihau gwastraff bwyd. Fe fydd cynllunydd prydiau yn eich helpu i gynllunio beth y fyddwch chi’n ei goginio dros yr wythnosau nesaf ac fe fydd y cynllunydd dogn yn eich helpu i gynllunio faint o fwyd sydd angen arnoch ym mhob rysáit.
- Darganfyddwch canoedd o ryseitiau gyda cyfarwyddiadau cam wrth gam hawdd.
- Cynllunydd dogn i’ch helpu i goginio y maint cywir o fwyd i’ch teulu.
- Cynllunydd prydiau i’ch helpu i gynllunio eich bwyd hyd at 14 diwrnod o flaen llaw
- Rhestr siopa: cadwch olwg o beth sydd yn eich cegin drwy restri pob peth sydd angen arnoch pan yn mynd i siopa, marciwch nhw wrth eich bod yn eu prynu ac adiwch nhw i’ch cwpwrdd, rhewgell neu’ch oergell ar yr app
Wedi rhestri fel un o’r 40 app groser gorau ar TheGrocer.co.uk
Download and install
Love Food Hate Waste (Cymraeg) version 2.0 on your
Android device!
Downloaded 100+ times, content rating: Everyone
Android package:
com.lovefoodhatewaste.lovefoodhatewaste.welsh, download Love Food Hate Waste (Cymraeg).apk