About Safe eExplorers (Welsh)
Mae’r ap Safe eExplorers (Welsh) wedi cael ei greu gan blant, ar gyfer plant. Dau fyfyriwr o ysgol Parc Cornist yn Sir y Fflint a greodd yr ap. Mae’n rhoi cyngor gwych i blant 7-11 oed am fod yn ddiogel ar y rhyngrwyd. Mae’n cynnwys gwybodaeth a dolenni defnyddiol a phethau i’w gwneud a pheidio eu gwneud i gadw plant yn ddiogel ar-lein. Mae hefyd yn cynnwys cwis i brofi eich gwybodaeth ar ôl i chi ddefnyddio’r ap. Enillodd yr ap gystadleuaeth ap Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn fwy Diogel 2016 yng Nghymru ar gyfer ysgolion cynradd. SWGfL, Canolfan y DU ar gyfer Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a Llywodraeth Cymru a drefnodd y gystadleuaeth. Mae’r ap ar gael yn Saesneg hefyd - chwiliwch am Safe eExplorers.
Download and install
Safe eExplorers (Welsh) version 1.0 on your
Android device!
Downloaded 10+ times, content rating: Everyone
Android package:
com.appshed.safeeexplorerswelsh, download Safe eExplorers (Welsh).apk